Y system fancio
Wrth ystyried y system fancio, cred y Blaid Werdd fod y llywodraeth wedi ymddwyn yn hollol anghyfrifol.
Maent wedi ein gorfodi ni, y trethdalwyr, i achub crwyn y bancwyr. Ond maent wedi methu sicrhau bod yr un banciau'n rhoi credyd y mae gwirioneddol ei angen arnynt i deuluoedd a busnesau annibynnol.
Byddwn yn ymladd am fargen ariannol deg, gyda banciau cymunedol, undebau credyd a chymdeithasau cydfuddianol. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl sydd angen cymorth ariannol yn derbyn benthyciadau realistig, fel y gallant oroesi'r caledi economaidd presennol yr ydym yn ei wynebu heddiw.
Credwn hefyd ei bod yn annheg fod y bancwyr anghyfrifol hyn yn parhau i ennill cyflogau a thaliadau bonws anferthol, tra bo 330,000 o bobl sy'n gweithio'n galed yn dal i ennill llai na'r lleiafswm cyflog pitw.
Dyna pam y byddwn yn ymladd i gyflwyno Comisiwn Tâl Uchel i sicrhau nad yw bancwyr a gweithredwyr eraill sy'n cael eu talu'n dda yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn cael eu gwobrwyo am eu methiant.





