Wales Green Party Plaid Werdd Cymru

Tai

Ar hyn o bryd mae prinder tai fforddiadwy o safon i'w prynu neu'u rhentu ym Mhrydain. Ar yr un pryd mae nifer o berchnogion tai mewn perygl o golli eu heiddo yn y dirwasgiad ac mae miloedd o bobl yn dal i fod yn ddigartref.

Bydd y Blaid Werdd yn ymladd am fargen deg i bawb ar dai. Rydym ni eisiau ei gwneud hi'n haws i bobl sefydlu eu hunain yn y farchnad eiddo, amddiffyn pobl sy'n berchen eu cartrefi a dileu digartrefedd unwaith ac am byth. Mae ein cynnig cynhwysfawr yn cynnwys:

  •   Adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cyngor o safon
  •   Cefnogi datblygu cymdeithasau tai cydweithredol
  •   Ailddechrau defnyddio'r 300,000 o dai sector preifat sy'n wag am dymor hir ym Mhrydain
  •   Adnewyddu'r 37,000 o dai cyngor sy'n wag ym Mhrydain i helpu lleihau rhestrau aros
  •   Rhoi mwy o reolaeth dros reoli eu cartrefi a'u hardaloedd i denantiaid tai cymdeithasol
  •   Gwella safon y stoc dai er mwyn helpu lleihau biliau
  •   Helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu tai i'w cadw trwy gynllun Hawl i Rentu.