Wales Green Party Plaid Werdd Cymru

Swyddi a chyflog byw

Ar hyn o bryd mae diweithdra yn saethu i fyny a dyw'r llywodraeth ddim yn gwneud llawer yngl^yn â'r peth. Ein polisi ni yw ymladd dros economi deg, sefydlog a chynaliadwy.

Mae bancwyr yn dal i gymryd eich arian ar ffurf taliadau bonws anhaeddiannol, tra bo ffatrïoedd, cwmnïau a ffermydd yn cael eu gorfodi i ddiswyddo mwy a mwy o weithwyr bob dydd, wythnos a mis.

Rhaid i hyn newid. Ein blaenoriaeth fwyaf a mwyaf enbyd yw creu miliwn o swyddi a llefydd hyfforddi newydd. Byddai pecyn £44bn o fesurau yn cynnwys hyfforddiant i'r gweithlu, buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, inswleiddio, tai cymdeithasol a rheoli gwastraff yn cael ei gyflwyno'n syth.

Bydd y swyddi hyn yn darparu'r isadeiledd allweddol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain y mae ei angen ar ein gwlad, gan gynnwys system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, cartrefi sy'n gynnes ac yn rhatach i'w cadw a chostau egni llawer is i fusnesau.

Dyw'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn y DG erioed wedi bod yn fwy ac mae'n dal i waethygu. Rydym yn credu ei bod yn annheg bod y llywodraeth wedi methu gwneud unrhyw beth yngl^yn â hyn.

Rydym yn galw am gyflwyno ‘Cyflog Byw'. Bydd hynny'n helpu i sicrhau bod gweithwyr sydd ar gyflogau isel yn ennill digon i ddarparu ar gyfer eu hunain a'u teuluoedd a dileu tlodi ym Mhrydain unwaith ac am byth. Bydd y Blaid Werdd yn ymladd dros Isafswm Cyflog Cenedlaethol o 60% o'r enillion cyfartalog cenedlaethol net (ar hyn o bryd byddai hynny'n golygu isafswm cyflog o £8.10 yr awr).

Byddwn hefyd yn ymladd am fargen ariannol deg gyda banciau cymunedol, undebau credyd a chymdeithasau cydfuddianol i ddarparu benthyciadau realistig i deuluoedd a busnesau bychain.

Er nad oes ganddynt yr un dylanwad dros y Maer newydd, mae'r Gwyrddion yn Llundain yn parhau i gefnogi ymdrechion grwpiau sy'n ymladd dros gyflogau teg i lanhawyr, staff siopau a gweithwyr arlwyo a gwestai ar draws Llundain.

Yn Rhydychen, mae'r Gwyrddion wedi llwyddo i basio cynnig trwy gyngor y ddinas, gan gyflwyno cyflog byw i weithwyr y cyngor yno.

Ac yn Lewisham, mae'r Gr^wp Gwyrdd o chwe aelod yn cynnig cyflog byw i holl weithwyr y cyngor, ac yn cynnig ymestyn hynny i holl gontractwyr y cyngor hefyd.

Mae Gwyrddion ledled y wlad yn dilyn yr esiamplau hyn ac yn ymgyrchu'n galed fel y gall miliynau'n fwy o'r gweithwyr sy'n cael eu talu leiaf ym Mhrydain gael cyflog rhesymol - ac yr ydym ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.