Pensiynau
Mae'r Blaid Werdd yn credu ei bod yn annheg bod arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu ar gynlluniau preifateiddio sâl.
Mae cost blynyddol y cynlluniau preifateiddio hyn dros £1biliwn a ni yw'r rhai sy'n gorfod talu'r bil.
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y cynlluniau'n cynnig dewis i ni. Mewn realiti nid yw'n gwneud dim i sicrhau darparu gofal iechyd effeithlon ac effeithiol ac yn wir mae'n lleihau rhai o'r manteision iechyd niferus yr ydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd.
Mae'n annheg bod safon gofal yn dioddef pan gaiff ysbytai a meddygfeydd eu trin fel busnesau sy'n bodoli i wneud elw yn hytrach nag fel gwasanaethau cyhoeddus.
Byddwn yn ymladd dros fargen deg i'r rheiny sydd angen gofal iechyd trwy wrthwynebu toriadau, cau gwasanaethau a phreifateiddio a mynnu darpariaeth lawn o wasanaethau lleol hygyrch.
Yn benodol, byddwn yn cynnal yr egwyddor o Wasanaeth Iechyd Gwladol am ddim trwy gyflwyno yng Nghymru a Lloegr y cynllun sy'n darparu gofal cymdeithasol am ddim i henoed yr Alban.
Credwn mewn cadw'r gwasanaeth iechyd am ddim - byddem yn dileu taliadau presgripsiwn, yn ailgyflwyno profion llygaid am ddim ac yn sicrhau bod triniaeth traed ar y GIG ar gael yn eang.
Byddwn hefyd yn ymladd i adfer gofal deintyddol am ddim a chynnig dewis o ddeintydd GIG i bawb.





