Wales Green Party Plaid Werdd Cymru

Polisi

Am fwy o wybodaeth am ein polisïau, yn ymweld â'r Blaid Werdd o Lloegr gwefan polisi Cymru (Saesneg)

 

Y system fancio

Wrth ystyried y system fancio, cred y Blaid Werdd fod y llywodraeth wedi ymddwyn yn hollol anghyfrifol.

Maent wedi ein gorfodi ni, y trethdalwyr, i achub crwyn y bancwyr. Ond maent wedi methu sicrhau bod yr un banciau’n rhoi credyd y mae gwirioneddol ei angen arnynt i deuluoedd a busnesau annibynnol.

Byddwn yn ymladd am fargen ariannol deg, gyda banciau cymunedol, undebau credyd a chymdeithasau cydfuddianol. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl sydd angen cymorth ariannol yn derbyn benthyciadau realistig, fel y gallant oroesi’r caledi economaidd presennol yr ydym yn ei wynebu heddiw.

Credwn hefyd ei bod yn annheg fod y bancwyr anghyfrifol hyn yn parhau i ennill cyflogau a thaliadau bonws anferthol, tra bo 330,000 o bobl sy’n gweithio’n galed yn dal i ennill llai na’r lleiafswm cyflog pitw.

Dyna pam y byddwn yn ymladd i gyflwyno Comisiwn Tâl Uchel i sicrhau nad yw bancwyr a gweithredwyr eraill sy’n cael eu talu’n dda yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn cael eu gwobrwyo am eu methiant.

Swyddi a chyflog byw

Ar hyn o bryd mae diweithdra yn saethu i fyny a dyw’r llywodraeth ddim yn gwneud llawer yngl^yn â’r peth. Ein polisi ni yw ymladd dros economi deg, sefydlog a chynaliadwy.

Mae bancwyr yn dal i gymryd eich arian ar ffurf taliadau bonws anhaeddiannol, tra bo ffatrïoedd, cwmnïau a ffermydd yn cael eu gorfodi i ddiswyddo mwy a mwy o weithwyr bob dydd, wythnos a mis.

Rhaid i hyn newid. Ein blaenoriaeth fwyaf a mwyaf enbyd yw creu miliwn o swyddi a llefydd hyfforddi newydd. Byddai pecyn £44bn o fesurau yn cynnwys hyfforddiant i’r gweithlu, buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, inswleiddio, tai cymdeithasol a rheoli gwastraff yn cael ei gyflwyno’n syth.

Bydd y swyddi hyn yn darparu’r isadeiledd allweddol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain y mae ei angen ar ein gwlad, gan gynnwys system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, cartrefi sy’n gynnes ac yn rhatach i’w cadw a chostau egni llawer is i fusnesau.

Dyw’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd yn y DG erioed wedi bod yn fwy ac mae’n dal i waethygu. Rydym yn credu ei bod yn annheg bod y llywodraeth wedi methu gwneud unrhyw beth yngl^yn â hyn.

Rydym yn galw am gyflwyno ‘Cyflog Byw’. Bydd hynny’n helpu i sicrhau bod gweithwyr sydd ar gyflogau isel yn ennill digon i ddarparu ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd a dileu tlodi ym Mhrydain unwaith ac am byth. Bydd y Blaid Werdd yn ymladd dros Isafswm Cyflog Cenedlaethol o 60% o’r enillion cyfartalog cenedlaethol net (ar hyn o bryd byddai hynny’n golygu isafswm cyflog o £8.10 yr awr).  

Byddwn hefyd yn ymladd am fargen ariannol deg gyda banciau cymunedol, undebau credyd a chymdeithasau cydfuddianol i ddarparu benthyciadau realistig i deuluoedd a busnesau bychain.

Er nad oes ganddynt yr un dylanwad dros y Maer newydd, mae’r Gwyrddion yn Llundain yn parhau i gefnogi ymdrechion grwpiau sy’n ymladd dros gyflogau teg i lanhawyr, staff siopau a gweithwyr arlwyo a gwestai ar draws Llundain.

Yn Rhydychen, mae’r Gwyrddion wedi llwyddo i basio cynnig trwy gyngor y ddinas, gan gyflwyno cyflog byw i weithwyr y cyngor yno.

Ac yn Lewisham, mae’r Gr^wp Gwyrdd o chwe aelod yn cynnig cyflog byw i holl weithwyr y cyngor, ac yn cynnig ymestyn hynny i holl gontractwyr y cyngor hefyd.

Mae Gwyrddion ledled y wlad yn dilyn yr esiamplau hyn ac yn ymgyrchu’n galed fel y gall miliynau’n fwy o’r gweithwyr sy’n cael eu talu leiaf ym Mhrydain gael cyflog rhesymol – ac yr ydym ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Tai

Ar hyn o bryd mae prinder tai fforddiadwy o safon i’w prynu neu’u rhentu ym Mhrydain. Ar yr un pryd mae nifer o berchnogion tai mewn perygl o golli eu heiddo yn y dirwasgiad ac mae miloedd o bobl yn dal i fod yn ddigartref.

Bydd y Blaid Werdd yn ymladd am fargen deg i bawb ar dai. Rydym ni eisiau ei gwneud hi’n haws i bobl sefydlu eu hunain yn y farchnad eiddo, amddiffyn pobl sy’n berchen eu cartrefi a dileu digartrefedd unwaith ac am byth. Mae ein cynnig cynhwysfawr yn cynnwys:

  • Adeiladu cenhedlaeth newydd o dai cyngor o safon
  • Cefnogi datblygu cymdeithasau tai cydweithredol
  • Ailddechrau defnyddio’r 300,000 o dai sector preifat sy’n wag am dymor hir ym Mhrydain
  • Adnewyddu’r 37,000 o dai cyngor sy’n wag ym Mhrydain i helpu lleihau rhestrau aros
  • Rhoi mwy o reolaeth dros reoli eu cartrefi a’u hardaloedd i denantiaid tai cymdeithasol
  • Gwella safon y stoc dai er mwyn helpu lleihau biliau
  • Helpu pobl sydd mewn perygl o golli eu tai i’w cadw trwy gynllun Hawl i Rentu.

Iechyd a’r GIG

Mae’r Blaid Werdd yn credu ei bod yn annheg bod arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu ar gynlluniau preifateiddio sâl.

Mae cost blynyddol y cynlluniau preifateiddio hyn dros £1biliwn a ni yw’r rhai sy’n gorfod talu’r bil.

Mae’r llywodraeth yn dweud y bydd y cynlluniau’n cynnig dewis i ni. Mewn realiti nid yw’n gwneud dim i sicrhau darparu gofal iechyd effeithlon ac effeithiol ac yn wir mae’n lleihau rhai o’r manteision iechyd niferus yr ydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd.

Mae’n annheg bod safon gofal yn dioddef pan gaiff ysbytai a meddygfeydd eu trin fel busnesau sy’n bodoli i wneud elw yn hytrach nag fel gwasanaethau cyhoeddus.

Byddwn yn ymladd dros fargen deg i’r rheiny sydd angen gofal iechyd trwy wrthwynebu toriadau, cau gwasanaethau a phreifateiddio a mynnu darpariaeth lawn o wasanaethau lleol hygyrch.

Yn benodol, byddwn yn cynnal yr egwyddor o Wasanaeth Iechyd Gwladol am ddim trwy gyflwyno yng Nghymru a Lloegr y cynllun sy’n darparu gofal cymdeithasol am ddim i henoed yr Alban.

Credwn mewn cadw’r gwasanaeth iechyd am ddim – byddem yn dileu taliadau presgripsiwn, yn ailgyflwyno profion llygaid am ddim ac yn sicrhau bod triniaeth traed ar y GIG ar gael yn eang.

Byddwn hefyd yn ymladd i adfer gofal deintyddol am ddim a chynnig dewis o ddeintydd GIG i bawb.

Pensiynau

Mae’r system bensiynau bresennol yn warth. Credwn ei bod yn annheg nad yw pobl sydd wedi gweithio’n galed trwy gydol eu hoes yn derbyn y pensiwn a addawyd iddynt yn y pen draw, gan adael nifer yn wynebu tlodi a chaledi.

Bydd y Blaid Werdd yn y Senedd yn ymladd dros fargen deg i bobl h^yn. Byddem yn sicrhau bod pob pensiynwr yn derbyn lleiafswm o £170 yr wythnos heb brawf modd. Byddem hefyd yn sicrhau eu bod yn derbyn gofal a chefnogaeth am ddim i’r rheiny sy’n byw’n annibynnol, gartref, mewn cartrefi gwarchodol a gofal ychwanegol neu mewn gofal preswyl.

Byddai’r Blaid Werdd yn cyflwyno rhaglen inswleiddio cartrefi am ddim i bob cartref sydd ei  angen, gyda blaenoriaeth i bensiynwyr a’r rheiny sy’n dioddef o dlodi tanwydd. Rydym yn anelu at inswleiddio 4 miliwn o gartrefi y flwyddyn.  

 

 

Maniffesto Cymreig

Mae polisi Plaid Werdd Cymru yn dilyn y Maniffesto dros Gymdeithas Gynaliadwy yng Nghymru (MSSiW). Gellir ei weld yma.

 

  Y Maniffesto dros Gymdeithas Gynaliadwy

Y MfSS yw ein dogfen bolisi gyflawn. Ar ein gwefan Bolisi gallwch edrych ar fanylion unrhyw bolisi, a hefyd gael mynediad at nifer o ‘bwyntiau polisi' byrrach a datganiadau polisi y cytunwyd arnynt gan ein cynadleddau.

policy.greenparty.org.uk